Cyfrol sy'n cyflwyno hanes y ffisegydd Evan James Williams, un o'r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed. Bu'n gweithio gyda ffisegwyr byd-enwog, rhai yn enillwyr gwobr Nobel, ac ymysg ei lwyddiannau chwaraeodd ran allweddol yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd.
Dyma gyfrol sy’n rhoi darlun o fywyd a gwaith y ffisegydd o Gymro, yr Athro Evan James Williams, gwr a gafodd ei ddisgrifio fel un o’r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed ac fe’i cydnabyddid fel arbrofwr dyfeisgar a damcaniaethwr disglair. Cymerodd ran flaenllaw yn y chwyldro a ddigwyddodd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda datblygiad ffiseg cwantwm. Cydweithiodd gyda’r arloeswyr (nifer ohonynt yn enillwyr gwobr Nobel) a gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes gwrthdrawiadau atomig ac yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd. Ym 1939, ymunodd yn y dasg o ddiddymu bygythiad dinistriol llongau tanfor a chyflawnodd waith gorchestol. Amlygir ei alluoedd di-gymar yn y gyfrol hon, a chyflwynir yn ogystal ddarlun o gymeriad hoffus a thwymgalon na gollodd ei ymlyniad na’i gariad tuag at fro ei febyd a’i diwylliant.
Get Evan James Williams by Rowland Wynne at the best price and quality guaranteed only at Werezi Africa's largest book ecommerce store. The book was published by University of Wales Press and it has 192 pages.
Our digital collection is currently being curated to ensure the best possible reading experience on Werezi. We'll be launching our Ebooks platform shortly.
Your privacy, your choice
Make Werezi work for you
We use essential cookies for your cart and sign-in. With your permission, optional cookies help us understand how Werezi is used and improve your book recommendations.
Essential cookies are always active. Optional analytics stay off unless you choose Allow all.