Y Dychymyg Ôl-Fodern : Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan
Book Details
Delivery Location
Delivery fee: Select location
Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy''n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955-). Hon yw''r astudiaeth estynedig gyntaf o''i waith, a rhoddir sylw penodol i''r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 - cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i''r afael â phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ôl-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i''r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ôl-fodernaidd Gymraeg a''i harwyddocâd i''n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg â beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio''r ffin dybiedig rhwng ''ffaith'' a ''ffuglen''. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw â thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.
Get Y Dychymyg Ôl-Fodern by at the best price and quality guaranteed only at Werezi Africa's largest book ecommerce store. The book was published by University of Wales Press and it has pages.